Ezekiel 10

Ysblander Duw yn gadael y Deml

1Yna wrth i mi edrych dyma fi'n gweld, ar y llwyfan uwch ben y ceriwbiaid, rywbeth oedd yn edrych yn debyg i orsedd wedi ei gwneud o saffir yn dod i'r golwg. 2A dyma'r Arglwydd yn dweud wrth y dyn mewn gwisg o liain: “Dos rhwng yr olwynion o dan y ceriwbiaid, llenwi dy ddwylo gyda'r marwor poeth, a'u taflu nhw dros y ddinas i gyd.”

A dyma fi'n ei weld yn mynd i nôl y marwor. 3(Roedd y ceriwbiaid yn sefyll i gyfeiriad y de o'r deml ar y pryd, ac roedd cwmwl yn llenwi'r iard fewnol.) 4Dyma ysblander yr Arglwydd yn codi oddi ar y cerbyd a'r ceriwbiaid ac yn symud at garreg drws y deml. Dyma'r cwmwl yn llenwi'r deml i gyd, ac roedd ysblander yr Arglwydd yn disgleirio'n llachar yn yr iard fewnol. 5Roedd sŵn adenydd y ceriwbiaid i'w glywed o'r iard allanol. Roedd fel sŵn y Duw sy'n rheoli popeth yn siarad.

6Pan ddwedodd yr Arglwydd wrth y dyn mewn gwisg o liain, “Cymer beth o'r tân sydd rhwng yr olwynion dan y ceriwbiaid,” dyma fe'n mynd a sefyll wrth ymyl un o'r olwynion. 7Roedd gan y ceriwbiaid ddwylo a breichiau dynol o dan eu hadenydd. A dyma un o'r ceriwbiaid yn estyn ei law at y tân oedd rhyngddyn nhw, ac yn cymryd peth ohono a'i roi yn nwylo'r dyn oedd mewn gwisg o liain. Ar ôl cymryd y tân dyma'r dyn yn mynd allan.

9Wrth i mi edrych dyma fi'n sylwi ar y pedair olwyn wrth ymyl y ceriwbiaid. Roedd un olwyn wrth ymyl pob ceriwb, ac roedden nhw'n sgleinio fel meini saffir. 10Roedd y pedair olwyn yn edrych yn union yr un fath â'i gilydd. Roedd fel petai olwyn arall y tu mewn iddyn nhw ar ongl sgwâr. 11Pan oedd y ceriwbiaid yn symud roedden nhw'n gallu mynd i unrhyw un o'r pedwar cyfeiriad heb orfod troi. Pa gyfeiriad bynnag roedden nhw'n mynd, roedd y wynebau eraill yn eu dilyn, heb orfod troi. 12Roedd eu cyrff yn gyfan – eu cefnau, eu dwylo a'u hadenydd – wedi eu gorchuddio â llygaid, ac roedd olwynion y pedwar wedi eu gorchuddio â llygaid hefyd. 13Clywais yr olwynion yn cael eu galw yn "olwynion yn chwyrlïo".

14Roedd gan bob un o'r ceriwbiaid bedwar wyneb: wyneb tarw
10:14 tarw Hebraeg, “y ceriwb”, ond gw. 1:10.
, wyneb dynol, wyneb llew ac wyneb eryr.
15A dyma'r ceriwbiaid yn mynd at i fyny. Nhw oedd y creaduriaid byw roeddwn i wedi eu gweld wrth Gamlas Cebar. 16Pan oedd y ceriwbiaid yn symud, roedd yr olwynion wrth eu hymyl nhw'n symud. Pan oedd y ceriwbiaid yn lledu eu hadenydd i godi oddi ar y ddaear, roedd yr olwynion yn aros gyda nhw. 17Pan oedd y ceriwbiaid yn stopio neu'n codi, roedd yr olwynion yn stopio a chodi gyda nhw, am fod ysbryd y creaduriaid byw yn yr olwynion.

18A dyma ysblander yr Arglwydd yn symud i ffwrdd o'r deml, ac yn hofran uwchben y ceriwbiaid. 19Ac wrth i mi edrych, dyma'r ceriwbiaid yn lledu eu hadenydd ac yn codi oddi ar y ddaear (a'r olwynion gyda nhw). Ond dyma nhw'n stopio wrth y fynedfa i giât ddwyreiniol y deml, gydag ysblander Duw Israel yn hofran uwch eu pennau.

20Nhw oedd y creaduriaid byw roeddwn i wedi eu gweld o dan Dduw Israel pan oeddwn wrth Gamlas Cebar. Roeddwn i'n sylweddoli mai ceriwbiaid oedden nhw. 21Roedd gan bob un bedwar wyneb a phedair aden, gyda breichiau a dwylo dynol o dan yr adenydd. 22Roedd eu hwynebau yn union yr un fath â'r rhai roeddwn i wedi eu gweld wrth Gamlas Cebar. Roedden nhw'n symud yn syth yn eu blaenau.

Copyright information for CYM